Ymateb i ymgynghoriad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ar ‘Flaenoriaethau ar gyfer y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai’

ERS Cymru

Cefndir

Mae Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru yn croesawu’r ymgynghoriad hwn ac mae’n falch o weld y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yn ceisio barn y cyhoedd a’r gymdeithas sifil ehangach yng Nghymru am ei flaenoriaethau ar gyfer y chweched Senedd.

Er bod llawer o gynnydd wedi’i wneud ar ddiwygio llywodraeth leol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae digon o waith i’w wneud o hyd i wella democratiaeth a chynrychiolaeth ar y lefel hon o lywodraeth.

Etholiadau Llywodraeth Leol 2022

Y flwyddyn nesaf, cynhelir yr etholiadau llywodraeth leol cyntaf ers pasio Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Mae newidiadau sylweddol wedi digwydd i'r ffordd y bydd y rhain yn gweithio o’u cymharu â’r etholiadau blaenorol yn 2017, a fyddai, yn ein barn ni, yn dir ffrwythlon i’r Pwyllgor edrych arno. Gallai hyn gynnwys asesu’r mesurau a gymerwyd i wella’r meysydd canlynol; 

Amrywiaeth

Nid yw cynghorwyr lleol yn cynrychioli’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu ar hyn o bryd ac maent ar ei hôl hi o gymharu â lefelau eraill llywodraeth yng Nghymru o ran cynrychiolaeth. Mae hyn yn arbennig o wir am gynrychiolaeth o’r rhywiau lle mae Aelodau’r Senedd ac Aelodau Seneddol yn cynrychioli etholwyr yn llawer gwell na chynghorwyr, tra bo gwybodaeth am nodweddion gwarchodedig eraill ar goll yn llwyr.1 

Mae’r diffyg cynrychiolaeth hwn yn rhwystro llywodraeth leol mewn dwy brif ffordd. Yn gyntaf, mae goruchafiaeth cynghorwyr sy’n ddynion hŷn gwyn yng Nghymru yn gallu dieithrio pleidleiswyr nad ydynt yn gweld eu hunain yn cael eu hadlewyrchu yn siambrau eu cyngor lleol. Mae’r datgysylltiad hwn yn effeithio’n uniongyrchol ar ymgysylltiad, gan gynnwys y nifer sy’n pleidleisio mewn etholiadau lleol.

Yn ail, mae ymchwil yn dangos bod amrywiaeth o gynrychiolwyr gwleidyddol yn arwain at ganlyniadau gwell drwy gasgliad mwy amrywiol o syniadau a safbwyntiau. Dywedodd nifer o gynghorwyr wrthym fod cael amrywiaeth o brofiadau bywyd mewn corff gwleidyddol yn arwain at benderfyniadau a chraffu sy’n cynrychioli anghenion, safbwyntiau a phrofiadau’r bobl maent yn eu gwasanaethu yn well. Ar hyn o bryd nid yw’r amrywiaeth hwn o gynghorwyr lleol yn cynrychioli cymdeithas ehangach yn effeithiol; dim ond 28% o gynghorwyr sy’n fenywod o’i gymharu â 51% o’r boblogaeth a dim ond tua 1.8% o gynghorwyr sy’n dod o gefndiroedd Du, Asiaidd neu leiafrifoedd ethnig o’i gymharu â 4.7% ym mhoblogaeth Cymru. I’r gwrthwyneb, mae 47% o gynghorwyr dros 60 oed ac mae 31% wedi ymddeol, cyfran uwch na phoblogaeth ehangach Cymru.2 

Ers 2017 mae nifer o ymyriadau wedi cael eu gwneud ar amrywiaeth mewn llywodraeth leol. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymgymryd â rhaglen waith ‘Amrywiaeth mewn Democratiaeth’ ac mae CLlLC wedi cydlynu rhai gweithgareddau recriwtio drwy ei gwefan byddwchyngynghorydd. Ym mis Mawrth eleni, cynhaliodd CLlLC gyfarfod arbennig gyda nifer o uwch gynghorwyr ledled Cymru yn bresennol. Arweiniodd hyn at wneud nifer o argymhellion penodol i wella amrywiaeth mewn democratiaeth.

Byddem yn croesawu asesiad yn etholiadau lleol y flwyddyn nesaf o’r effaith y mae’r mesurau hyn wedi’i chael a pha fesurau eraill y gellid eu cymryd i hybu amrywiaeth os na fydd cynnydd sylweddol. Un peth sydd ar goll ar hyn o bryd, sydd wedi llesteirio gwerthusiadau amrywiaeth yn y gorffennol, yw data o ansawdd da. Mae’n hanfodol bod data monitro cydraddoldeb ac amrywiaeth yn cael ei gasglu ar gyfer pob cynghorydd yn ogystal ag ymgeiswyr sy’n sefyll yn etholiadau lleol 2022 a phob etholiad yn y dyfodol os ydym am werthuso effeithiau mesurau hybu amrywiaeth mewn ffordd ystyrlon.

Ymgysylltu a’r nifer sy’n pleidleisio

Y gwir trist yw nad yw mwyafrif y bobl yng Nghymru, dros 20 mlynedd ar ôl datganoli, yn dal i bleidleisio yn etholiadau Cymru, boed mewn etholiadau lleol neu etholiadau’r Senedd. Er bod nifer y bobl sy’n pleidleisio mewn Etholiadau Cyffredinol yn gymharol uchel yng Nghymru, mae bwlch enfawr yn y rhai sy’n pleidleisio mewn etholiadau lleol ac mewn etholiadau’r DU.

Mae’r nifer sy’n pleidleisio mewn etholiadau lleol yn hynod o isel, dim ond 42% o’r etholwyr a bleidleisiodd yn 2017. Dros y tri etholiad llywodraeth leol diwethaf (2017, 2012/13 a 2008) nid yw’r nifer sy’n pleidleisio erioed wedi codi i 50% (42%, 39% a 44% yn y drefn honno).3

Roedd adroddiad Lleisiau Coll ERS Cymru yn tynnu sylw at dair thema sy’n ymwneud â sut mae pobl yn teimlo am wleidyddiaeth yng Nghymru; dryswch, rhwystredigaeth a gobaith. Roedd yr arolwg yn tynnu sylw at y ffaith bod ‘hyder mewn mynd i orsaf bleidleisio’ dros 20% yn is ymysg pobl nad ydynt yn pleidleisio o’i gymharu â’r rheini sy’n pleidleisio.4 Mae hyn yn tynnu sylw at yr angen am ymgysylltu pellgyrhaeddol, yn enwedig â’r rheini sy’n llai tebygol o bleidleisio, i fynd i’r afael â’r dryswch hwn a phontio’r bwlch gwybodaeth. Mae diffyg gwybodaeth am rôl gwleidyddiaeth leol a dealltwriaeth o’r gwaith y mae cynghorwyr lleol yn ei wneud yn debygol o gyfrannu at y difaterwch hwn ynghylch pleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol. 

Gyda grym dros etholiadau wedi’i ddatganoli, nawr mae gan Gymru y gallu i newid y ffordd y mae etholiadau’n gweithio. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld cynnydd yn cael ei wneud yn y maes hwn. Etholiadau 2022 yw’r prawf cyntaf ar gyfer y mesurau hyn mewn perthynas ag etholiadau lleol. Mae’r nifer sy’n pleidleisio yn arwydd o’r llwyddiant hwn, ond bydd y darlun yn gymhleth, ac mae’n werth craffu arno go iawn a gwneud argymhellion cadarn ar gyfer gwella.

Un maes a fydd o ddiddordeb arbennig o ran ymgysylltu yn etholiadau lleol 2022 fydd ymestyn yr etholfraint i bobl ifanc 16 a 17 oed a phob dinesydd tramor cymwys. Roedd etholiadau’r Senedd eleni yn brawf cynnar o sut mae hyn wedi cael ei gyflawni, ond nid ydym wedi gweld hyn yn cael ei gyflwyno eto ar gyfer etholiadau cynghorau.

Ar ben hynny, mae mesurau eraill wedi cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru gyda’r bwriad o annog pleidleiswyr sydd newydd gael eu hetholfreinio i gofrestru a phleidleisio. Gallai hyn fod yn faes gwaith sylweddol, yn enwedig o ran cynlluniau peilot ar gyfer pleidleisio hyblyg a mwy o bwyslais ar gofrestru.

Dylai unrhyw asesiad o etholiadau lleol 2022 gynnwys dadansoddi effeithiolrwydd y mesurau hyn.

Syniadau ychwanegol

Wrth i bwyllgorau symud i gynnal cyfarfodydd bob pythefnos yn hytrach na phob wythnos, rydym yn poeni am yr effaith bosibl y gallai hyn ei chael ar amrywiaeth. Mae hyn yn amlwg yn berthnasol i bob pwyllgor yn hytrach na’r un yma’n arbennig. Ond byddem yn annog y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai i ystyried yr amrywiaeth o dystion a sefydliadau sy’n rhoi tystiolaeth fel rhan o unrhyw ymchwiliad.

Nodiadau

  1. Grŵp Arbenigwyr ar Amrywiaeth mewn Llywodraeth Leol, 2014, Sicrhau Democratiaeth Amrywiol mewn Llywodraeth Leol yng Nghymru https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2019-06/140305-expert-group-report-cy.pdf
  2. Gweithgor CLlLC ar Amrywiaeth mewn Democratiaeth Leol, 2021, Adroddiad Cyfarfod Arbennig Cyngor CLlLC https://www.wlga.wales/SharedFiles/Download.aspx?pageid=62&mid=665&fileid=2966
  3. Y Comisiwn Etholiadol, 2019, Canlyniadau a’r nifer a bleidleisiodd yn etholiadau lleol Cymru, Mai 2017 https://www.electoralcommission.org.uk/cy/pwy-ydym-ni-a-beth-rydym-yn-ei-wneud/elections-and-referendums/etholiadau-a-refferenda-yn-y-gorffennol/wales-local-council-elections/canlyniadau-ar-nifer-a-bleidleisiodd-yn-etholiadau-lleol-cymru-mai-2017
  4. Jess Blair a Mat Mathais, 2017, Adroddiad Lleisiau Coll ERS  https://www.electoral-reform.org.uk/latest-news-and-research/publications/lleisiau-coll/?lang=cy